Creiriau – myfyrdod ffotofferig ar Gymru
Mae Cadw yn eich gwahodd i archwilio safleoedd o safbwynt newydd
Mae CREIRIAU yn brosiect celf gyfoes sy’n seiliedig ar gyfres o osodiadau celf safle-benodol deniadol, hygyrch i’r cyhoedd o’r cyfrwng Photosphere a ddatblygwyd ac a gyflwynwyd gan yr artist gweledol Matt Wright.
O’r delweddau hyn, mae’r artist wedi creu nifer o gerfluniau ffotograffig sfferig sydd wedyn yn cael eu gosod yn ôl i’r amgylcheddau y maent yn eu dogfennu.
Mae’r ailosodiadau hyn yn creu anghytgord symbiotig unigryw rhwng y recordiedig a’r gwir, gan herio canfyddiad gweledol y gwyliwr, ac wrth wneud hynny yn cynnig persbectif annisgwyl i fyfyrio arno.
Drwy gydol Gorffennaf ac Awst bydd wyth cerflun ffotofferig yn ymddangos ar nifer o safleoedd Cadw. Bydd y sfferau yn ymddangos yng Nghastell Rhaglan, Abaty Tyndyrn, Llynnoedd Haearn Blaenafon, Pentre Ifan, Castell y Bere, Abaty Glyn y Groes, Castell Caernarfon, a Grŵp Cytiau Din Lligwy ar Ynys Môn.
Bydd ymwelwyr yn gweld delweddau o wahanol olygfeydd o'r safle y maent yn ymweld, a gweld y sfferau enfawr i rhoi safbwyntiau newydd o with safle Cadw dros Gymru.
Categori | Price |
---|---|
Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
Oedolyn |
£7.30
|
Teulu* |
£23.40
|
Pobl anabl a chydymaith |
Am ddim
|
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr |
£5.10
|
Pobl hŷn (Oed 65+) |
£7.00
|
*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim Mae deiliaid cardiau Golau Glas ac aelodau a chyn-aelodau Lluoedd Arfog EF yn cael 10% oddi ar bris mynediad (ddim ar gael ar-lein). |